RSPB Volunteering Placement (Voluntary Dee Estuary/ Lleoliad Gwirfoddoli gyda’r RSPB (Gwirfoddol Aber Afon Dyfrdwy)
For advert in Welsh please see below.
Role available from late March to September 2026, with flexibility on start and end dates depending on availability.
All applicants must be available for a minimum of 3 months, and able to start no later than May 2026.
All applicants must be over the age of 18 and hold a full clean manual UK driver's license or equivalent.
About the Role:
The Dee Estuary is one of the RSPB’s largest and most up and coming reserves. After modest beginnings over 40 years ago, in the past decade we have flourished with the development of Burton Mere Wetlands, where more than 200 pairs of breeding waders thrive and nearly 50,000 annual visitors come to enjoy the rich and varied wildlife. Our satellite site at the Point of Ayr in North Wales is a key breeding site for little terns, oystercatchers, and ringed plovers. These beach nesting species are especially vulnerable to disturbance and habitat loss, and over the last few years the little tern breeding population at this site has declined. You could play a vital role in protecting the little tern colony, thus recovering the population to a sustainable level.
This is a split role based primarily between Burton Mere Wetlands and the Point of Ayr peninsula, assisting the staff warden and volunteer teams. We are looking for a commitment of 4 full days a week, with flexibility for the right applicant.
What’s In It For You:
If you’re seeking a career in practical conservation, this placement is the perfect first step. Alongside an experienced team of staff wardens and volunteers, you will gain field and survey experience, as well as get the chance to develop key practical skills. Gain experience in the conservation of iconic birds including avocets, marsh harriers and great white egrets, plus red-listed species including lapwings and little terns.
Included:
-
Transport to the Point of Ayr from Burton mere wetlands.
-
Claim back travel expenses.
-
Structured in-house training.
With the potential to gain your LANTRA brushcutter/trimmer training ticket, and a 3-day first aid at work certificate with St. John’s Ambulance.
Key Tasks:
-
Assisting warden staff with reserve management.
-
Bird monitoring surveys: Productivity surveys, breeding bird surveys both at Burton Mere Wetlands and of coastal nesting birds at the Point of Ayr. Wide range of species to survey.
-
Assisting management of the breeding colony of little terns at the Point of Ayr, including public engagement, trail camera monitoring, predator monitoring, nest and bird counts, and electric fence maintenance.
-
Assisting with general reserve upkeep including fence repairs and path maintenance.
-
Health and safety recording.
-
Working in a small team alongside other volunteers and people from wildlife groups and organisations around the estuary.
Key Skills:
-
Good practical aptitude.
-
Good ecological knowledge.
-
Conscientious eye for detail.
-
Basic bird ID skills.
-
Leadership ability.
-
Friendly, outgoing personality.
-
Strong belief in the RSPB’s mission.
-
Ability to work outdoors in a variety of weather conditions.
...............................................................................................................
Mae’r rôl ar gael rhwng diwedd mis Mawrth a mis Medi 2026, gyda hyblygrwydd o ran dyddiadau dechrau a gorffen yn dibynnu ar argaeledd.
Rhaid i bob ymgeisydd fod ar gael am o leiaf 3 mis, a gallu dechrau erbyn mis Mai 2026 fan bellaf.
Rhaid i bob ymgeisydd fod dros 18 oed a meddu ar drwydded yrru lawn a glân y DU neu drwydded gyfatebol.
Gair am y swydd:
Aber Afon Dyfrdwy yw un o’r gwarchodfeydd mwyaf o ran maint ac addewid sydd gan yr RSPB. Ar ôl dechrau’n eithaf di-nod dros 40 mlynedd yn ôl, rydym wedi ffynnu yn ystod y degawd diwethaf, gyda datblygiad Gwlyptiroedd Burton Mere, lle mae dros 200 o barau o adar hirgoes sy’n bridio yn ffynnu a bron i 50,000 o ymwelwyr yn dod bob blwyddyn i fwynhau’r bywyd gwyllt toreithiog ac amrywiol. Mae ein safle lloerennol yn y Parlwr Du yng Ngogledd Cymru yn safle bridio allweddol i fôr-wenoliaid bach, piod môr a chwtiaid torchog. Mae’r rhywogaethau hyn, sy’n nythu ar y traeth, yn agored iawn i aflonyddwch ac i weld eu cynefin yn cael ei golli. A thros y blynyddoedd diwethaf, mae poblogaeth fridio’r môr-wenoliaid bach ar y safle hwn wedi gostwng. Gallech chi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu’r nythfa o fôr-wenoliaid bach, gan godi’r boblogaeth i lefel gynaliadwy.
Mae hon yn swydd sy’n cael ei rhannu’n bennaf rhwng Gwlyptiroedd Burton Mere a phentir y Parlwr Du, gan gynorthwyo’r warden cyflogedig a’r timau o wirfoddolwyr. Rydym ni'n chwilio am ymrwymiad o 4 diwrnod llawn yr wythnos, gyda hyblygrwydd i’r ymgeisydd cywir.
Y manteision i chi:
Os ydych chi’n chwilio am yrfa mewn cadwraeth ymarferol, dyma’r cam cyntaf perffaith. Ochr yn ochr â thîm profiadol o wardeiniaid cyflogedig a gwirfoddolwyr, byddwch chi’n ennill profiad o waith maes ac arolygu, yn ogystal â chael cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol allweddol. Cewch brofiad o warchod adar eiconig, gan gynnwys cambigau, bodaod y gwerni a crehyrod mawr gwyn, yn ogystal â rhywogaethau sydd ar y rhestr goch, fel cornchwiglod a môr-wenoliaid bach. ** Yn cynnwys:**
-
Cludiant i’r Parlwr Du o wlypdiroedd Burton Mere.
-
Hawlio ad-daliad o gostau teithio.
-
Hyfforddiant mewnol strwythuredig.
-
Gyda’r posibilrwydd o ennill eich tocyn hyfforddi LANTRA ar gyfer peiriant tocio/torri llwyni, a thystysgrif cymorth cyntaf yn y gwaith 3 diwrnod gydag Ambiwlans Sant Ioan.
Y Prif Dasgau:
-
Helpu’r warden cyflogedig i reoli’r warchodfa.
-
Arolygon monitro adar: Arolygon cynhyrchiant, arolygon adar bridio yng Ngwlyptiroedd Burton Mere ac adar sy’n nythu ar yr arfordir yn y Parlwr Du. Amrywiaeth eang o rywogaethau i’w harolygu.
-
Helpu i reoli nythfa fridio’r môr-wenoliaid bach yn y Parlwr Du, gan gynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd, monitro camerâu llwybrau, monitro ysglyfaethwyr, cyfri nythod ac adar, a chynnal a chadw ffensys trydan.
-
Helpu i gynnal a chadw’r warchodfa’n gyffredinol, gan gynnwys trwsio ffensys a chynnal a chadw llwybrau.
-
Cofnodion iechyd a diogelwch.
-
Gweithio mewn tîm bach ochr yn ochr â gwirfoddolwyr eraill a phobl o grwpiau a mudiadau bywyd gwyllt o amgylch yr aber.
Sgiliau Allweddol:
-
Dawn ymarferol dda.
-
Gwybodaeth ecolegol dda.
-
Sylw i’r manylion mewn ffordd gydwybodol.
-
Sgiliau sylfaenol o ran adnabod adar.
-
Gallu i arwain.
-
Personoliaeth gyfeillgar ac allblyg.
-
Credu’n gryf yng nghenhadaeth yr RSPB.
-
Gallu gweithio yn yr awyr agored mewn gwahanol fathau o dywydd.