Surveyor (Not on a Reserve) (Gylfinir Dyffryn Cefni - Monitro ac amdiffyn nythod / Cefni Valley Curlew - Nest monitoring and protection)
Please scroll down for English.
Arolygwr Gylfinir Dyffryn Cefni
Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig ac angerddol i helpu i ganfod a gwarchod nythod y gylfinir yn Nyffryn Cefni, Ynys Môn.
Mae’r gylfinir dan fygythiad, a rhagwelir y bydd yn diflannu o Gymru erbyn 2033 heb gamau cadwraethol cydlynol. Mae nifer y Gylfinir yn gostwng oherwydd cyfuniad o ffactorau sy’n effeithio ar allu’r rhywogaeth i fridio’n llwyddiannus. Mae’r rhain yn cynnwys colli cynefin o ansawdd uchel, newidiadau mewn arferion amaethyddol, ac ysglyfaethu.
Drwy wella cynefinoedd, gosod mesurau gwarchod nythod a gweithio gyda ffermwyr a chymunedau lleol, rydyn ni’n gobeithio hybu cynhyrchiant a chynyddu nifer y Gylfinir sy’n bridio.
Mae gennym ni sawl pâr o Ylfinirod yn bridio yma bob blwyddyn. Er mwyn monitro eu llwyddiant bridio yn well, hoffem gael help i ddod o hyd i’w nythod a’u monitro yn ystod y gwanwyn a dechrau’r haf. Er mwyn helpu i ddiogelu’r wyau a’r cywion rhag ysglyfaethwyr, bydd angen help arnom hefyd i godi ffensys i warchod y nythod. Mae hyn yn golygu codi ffens drydan yn gyflym o amgylch nythod, cyn gynted â phosibl ar ôl i’r nythod gael eu darganfod.
Amser
Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn cael ei wneud rhwng mis Mawrth a mis Mehefin, gyda rhywfaint o waith monitro parhaus yn cael ei gynnal hyd at fis Gorffennaf hefyd.
Lleoliad
Byddwch yn ein helpu i ddod o hyd a ffensio nythod yn nyffryn Cefni, Ynys Môn, Gogledd Cymru. Yn ddelfrydol, dylech chi fyw'n ddigon agos i fod yn rhan o dîm ffensio nyth ymateb cyflym.
Sgiliau a galluoedd
Bydd angen i chi allu adnabod adar hirgoes, neu ddangos eich bod yn awyddus iawn i ddysgu. Bydd angen digonedd o amynedd arnoch chi er mwyn gwylio’r rhywogaeth, maent yn gallu ymddwyn mewn ffordd gyfrinachol iawn yn eu nythod. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gerdded dros dir garw i gyrraedd rhai nythod.
Byddwn ni’n rhoi hyfforddiant er mwyn meithrin eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn y meysydd canlynol:
- Sgiliau adnabod adar hirgoes.
- Sgiliau adnabod nythod.
- Sgiliau adeiladu ffensys nythod.
- Yr heriau sy’n wynebu rhywogaeth fridio’r Gylfinir yng Nghymru.
- Beth mae RSPB Cymru yn ei wneud i’w helpu.
Beth allwn ni ei wneud i chi?
Darparu:
- Gwybodaeth a hyfforddiant.
- Cymorth a chyfleoedd i gwrdd yn rheolaidd.
- Cyfle i chi fod yn rhan o gymuned o wirfoddolwyr brwdfrydig sydd â’r un nod.
- Y teimlad braf o fod wedi helpu i achub un o rywogaethau mwyaf eiconig Cymru.
- Cyfle i weld rhywogaethau eraill yn rheolaidd, fel Boda‘r Gwerni, y Gornchwiglen a’r Ehedydd.
Dyma’ch cyfle i fod yn aelod o dîm sy’n cyflawni camau cadwraethol uniongyrchol er mwyn cefnogi un o’r rhywogaethau sy’n cael y flaenoriaeth uchaf ym maes cadwraeth natur yn y DU!
Os yw hon yn swnio fel y rôl i chi, cliciwch y botwm ‘gwneud cais’.
Cefni Valley Curlew Nest Surveyor
We are looking for enthusiastic and passionate volunteers to help identify and protect Curlew nests in the Cefni Valley, Anglesey.
Curlews are under threat, with predicted extinction in Wales by 2033 without coordinated conservation action. Curlew declines are due to a combination of factors which effect the ability of the species to breed successfully. These include loss of high-quality habitat, changes in agricultural practice and predation.
Through habitat improvements, nest protection measures and working with farmers and local communities, we hope to boost productivity and increase the number of breeding Curlew.
We have several pairs of Curlew that breed locally each year. In order to monitor their breeding success more closely, we would like help finding and monitoring their nests over the spring and early summer. To help protect the eggs and chicks from predators, we will also need help fencing the nests. This involves erecting an electric fence quickly around a nest, as soon as possible after the nest has been found.
Timing
This majority of this work will take place from March – June, with some continued monitoring into July also.
Location
You will help us find and fence nests in the Cefni Valley, Anglesey, North Wales. Ideally you should live close enough to be part of a rapid response nest fencing team.
Skills and abilities
You will need to be able to identify wading birds or be keen to learn how. You will need plenty of patience to watch a species which can behave in a very secretive way around their nests. You may have to walk over rough terrain to reach some nests.
We will provide training in the following skills and knowledge:
- Wader identification skills.
- Nest identification skills.
- Nest fence building skills.
- The difficulties faced by breeding curlew in Wales.
- What RSPB Cymru is doing to help them.
What can we do for you?
Provide:
- Training and information.
- Support and opportunities to regularly meet.
- An opportunity to be part of a community of enthusiastic volunteers with a common aim.
- The satisfying feeling of helping to save one of Wales’ most iconic species.
- An opportunity to regularly see other species such as Marsh Harriers, Lapwing and Skylark.
This is your chance to be part of a team delivering direct conservation action to one of the highest priority species in UK nature conservation today!
If this sounds like the role for you then please click 'apply'.