Pin Badge Box Volunteer (West Pembrokeshire - St David's & Haverfordwest) / Gwirfoddolwr Bocs Bathodyn Pin (Gorllewin Sir Benfro - Tyddewi & Hwlffordd)

Opportunity image

Sgroliwch i lawr ar gyfer y Cymraeg/ Scroll down for Welsh

ROLE DESCRIPTION

We need Pin Badge Box Volunteers in St David's, Haverfordwest and the wider west Pembrokeshire area to help us raise vital funds for saving nature. This role is perfect for anyone looking to volunteer flexibly for a few hours per month and who enjoys meeting new people. This role is suitable for under 18s.

This role involves taking over management of established pin badge boxes in either St David's or Haverfordwest and the wider west Pembrokeshire area, and to approach other sites in your local community, such as shops or cafes, and ask them to support RSPB Cymru by hosting a pin badge box on their premises.

As well as:

  • Collecting the money and topping up your boxes with extra pin badges, every 4-6 weeks (depending on the site and your convenience).
  • Counting the money and banking the donations from boxes.
  • Ensuring that pin badge boxes are in a good condition, replacing where necessary.
  • Using our user-friendly website to record your banked donations.

For this role we require people with the following skills:

  • Good communication skills and an ability to liaise with your local community.
  • Numeracy, record-keeping skills, and the ability to handle cash efficiently and accurately.
  • Basic computer literacy.
  • An ability to use your own initiative.
  • Passion and enthusiasm to help give nature a home.

This is a rewarding role and offers volunteers the opportunity to:

  • Develop various skills such as fundraising, communication, public relations and marketing.
  • Gain insight into the RSPB’s work.
  • Make additional community links and meet new people in your local area.
  • Undertake training and benefit from support throughout your volunteering.

Most of all this role offers the opportunity to make a difference and to help inspire others to help save nature.


DISGRIFIAD RÔL

Mae angen Gwirfoddolwyr Bocs Bathodyn Pin arnom yn Tyddewi, Hwlffordd, a'r ardal ehangach i’n helpu i godi arian hanfodol er mwyn achub byd natur. Mae’r rôl yma’n berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n edrych am gyfle gwirfoddoli hyblyg dros ychydig o oriau'r mis ac sy’n mwynhau cwrdd â phobl newydd. Mae’r rôl yn addas ar gyfer rheini o dan 18 mlwydd oed.

Mae’r rôl yn cynnwys gwarchod bocsys sefydledig naill a'i yn Tyddewi neu Hwlffordd a'r ardal cyfagos, a mynd at leoliadau yn eich ardal leol (siopau a chaffis er enghraifft), a gofyn iddynt gefnogi RSPB Cymru trwy osod bocs bathodyn pin ar eu safleoedd.

Mae’r rôl hefyd yn cynnwys:

  • Casglu arian a sicrhau lefel stoc dda o fathodynnau pin, pob 4-6 wythnos (yn ddibynnol ar y safle ac eich argaeledd).
  • Cyfrif a bancio’r arian o’r bocsys.
  • Sicrhau bod y bocsys bathodyn pin mewn cyflwr da, a rhoi un arall yn eu lle os oes angen.
  • Cofnodi’r arian sydd wedi’i bancio ar ein gwefan hawdd ei ddefnyddio.

Ar gyfer y rôl yma, rydym yn gofyn am bobl gyda’r sgiliau canlynol:

  • Sgiliau cyfathrebu da a’r gallu i ymgysylltu gyda’ch cymuned leol.
  • Sgiliau rhifedd a chadw cofnod, a’r gallu i drin a thrafod arian yn effeithlon ac yn gywir.
  • Llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.
  • Y gallu i ddefnyddio menter eich hun.
  • Angerdd a brwdfrydedd er mwyn helpu rhoi cartref i fyd natur.

Mae’r rôl yn llawn boddhad ac sy’n rhoi cyfle i wirfoddolwyr:

  • Datblygu nifer o sgiliau megis codi arian, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata.
  • Cael gwell dealltwriaeth o waith y RSPB.
  • Creu cysylltiadau cymunedol a chwrdd â phobl newydd yn eich ardal leol.
  • Ymgymryd mewn hyfforddiant ac elwa o gefnogaeth yn ystod eich gwirfoddoli.

Yn bennaf mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i wneud gwahaniaeth ac i helpu ysbrydoli eraill i helpu achub byd natur.