Species Protection (Little Tern Volunteer Point of Ayr)

Opportunity image

Little Tern Volunteer

Purpose of the role: Are you passionate about protecting wildlife near you? We’re looking for enthusiastic people to help protect the Point of Ayr little tern breeding colony and engage visitors to the coast about them. You don’t need to know anything about little terns – we’ll help you learn.

Disturbance is the greatest threat to nesting little terns and we need volunteers to help protect the nests from human disturbance and predators such as birds of prey. Volunteers will support the RSPB and North Wales Little Tern Group to protect the small but growing population of little terns at the Point of Ayr.

What you will be doing:

This role is seasonal (May to August) and involves:

  • Working in a small team alongside other volunteers and people from wildlife groups and organisations around the estuary.
  • Engaging with the public, informing them of the importance of the little tern colony.
  • Talking to visiting members of the public to prevent disturbance to the little tern breeding colony.
  • Being outdoors in a variety of weathers.
  • Monitoring numbers of breeding adult little terns, oystercatchers and ringed plover including colour ring monitoring.
  • Helping install electric fencing.

Skills, experience and qualities needed: You don’t need to know how to identify wading birds for this role – we will help you learn. We are looking for people who love to chat to others and like being outdoors. No experience is necessary as all equipment and training will be provided, but we are looking for people who are:

  • Able to communicate well with others – a real people person
  • Passionate and enthusiastic about conservation and British wildlife.
  • Happy to work outside in all weathers.
  • Friendly and approachable and enjoy working as part of a team.
  • Are willing to travel to the coast.

When and where:

Timing: May to August Volunteering to cover a 7 day a week rota 9am till 5pm each day Average commitment: 1/2 a day every other week-1 day each week

Location: Point of Ayr

Support offered: In this role you will be supported by the RSPB. There will be a short induction session about the Our Dee Estuary project and volunteering with the RSPB when you sign up as a volunteer with the RSPB. This will also include a health and safety induction session with information on RSPB health and safety policy, procedures and risk assessments. You will also be introduced to the North Wales Little Tern Group, a group of people dedicated to the conservation of little terns on the Dee Estuary. All equipment and training will be provided.

What you could get out of it:

This is a great opportunity to get out in the fresh air, meet new people, learn about little terns and gain new skills whether that’s monitoring techniques or engaging people in coastal wildlife. You will be mentored and supported by experienced volunteers. You also have the opportunity to become part of local volunteering group who protects wildlife around the estuary.

Other relevant information: Our Dee Estuary is a cross-border partnership project, funded by the National Lottery Heritage Fund. The project aims to connect coastal communities with their natural heritage to create a new community of stewardship to effectively conserve and safeguard the wildlife significance of the Dee Estuary.

Teitl y rôl Gwirfoddolwr Môr-wenoliaid Bach

Pwrpas y rôl

Ydych chi'n angerddol am ddiogelu bywyd gwyllt yn eich ardal chi? Rydyn ni'n chwilio am bobl frwdfrydig i helpu i ddiogelu poblogaeth fagu'r Parlwr Du o fôr-wenoliaid bach ac ennyn diddordeb ymwelwyr â’r arfordir ynddynt. Does dim angen i chi wybod dim am y môr-wenoliaid bach – byddwn yn eich helpu i ddysgu. Tarfu yw'r bygythiad mwyaf i fôr-wenoliaid bach sy'n nythu ar yr aber. Mae arnom ni angen gwirfoddolwyr i helpu i ddiogelu'r nythod rhag tarfu gan bobl ac ysglyfaethwyr fel adar ysglyfaethus. Bydd y gwirfoddolwyr yn cefnogi’r RSPB a Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru i ddiogelu'r boblogaeth fechan ond gynyddol hon o’r môr-wenoliaid bach yn y Parlwr Du.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Rôl dymhorol yw hon (misoedd Mai i Awst) ac mae’n cynnwys y canlynol:

  • Gweithio mewn tîm bychan ochr yn ochr â gwirfoddolwyr eraill a phobl o grwpiau a sefydliadau bywyd gwyllt o amgylch yr aber.

  • Ymgysylltu â'r cyhoedd, gan roi gwybod iddynt am bwysigrwydd y boblogaeth o fôr-wenoliaid bach.

  • Siarad ag aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld i atal tarfu ar y boblogaeth fagu o fôr-wenoliaid bach.

  • Bod yn yr awyr agored mewn amrywiaeth o dywydd.

  • Monitro niferoedd y môr-wenoliaid bach sy'n magu, pïod y môr a'r cwtiad torchog gan gynnwys monitro cylchoedd lliw.

  • Helpu i osod ffensys trydan yn eu lle a gwneud gwaith cynnal a chadw ar y ffensys.

Sgiliau, profiad a rhinweddau gofynnol

Does dim angen i chi wybod sut i adnabod aderyn rhydio ar gyfer y rôl yma - byddwn yn eich helpu i ddysgu. Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd wrth eu bodd yn sgwrsio ag eraill ac yn hoffi bod yn yr awyr agored. Does dim angen profiad gan y bydd yr holl offer a hyfforddiant yn cael eu darparu, ond rydym yn chwilio am bobl sydd:

  • Yn gallu cyfathrebu yn dda ag eraill – ‘person pobl’ go iawn.
  • Yn angerddol a brwdfrydig am gadwraeth a bywyd gwyllt Prydain.
  • Yn hapus i weithio y tu allan ym mhob tywydd.
  • Yn gyfeillgar ac agos atoch chi ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm.
  • Yn fodlon teithio i’r arfordir.

Pryd a ble

Amseru: Misoedd Mai i Awst a nifer yr oriau fel sy’n bosibl i chi.

Lleoliad:Y Parlwr Du

Y gefnogaeth a gynigir

Yn y rôl hon byddwch yn cael eich cefnogi gan yr RSPB. Bydd sesiwn cyflwyno byr am brosiect Caru Aber Dyfrdwy a gwirfoddoli gyda’r RSPB pan fyddwch yn cofrestru fel gwirfoddolwr gyda’r RSPB. Bydd hyn hefyd yn cynnwys sesiwn cyflwyno iechyd a diogelwch gyda gwybodaeth am bolisi iechyd a diogelwch yr RSPB, gweithdrefnau ac asesiadau risg.

Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, grŵp o bobl sy’n ymroddedig i gadwraeth y môr-wenoliaid bach ar Aber Afon Dyfrdwy. Bydd yr holl offer a hyfforddiant yn cael eu darparu.

Sut allech chi elwa

Mae hwn yn gyfle gwych i fynd allan i’r awyr iach, cyfarfod â phobl newydd, dysgu am y môr-wenoliaid bach ac ennill sgiliau newydd boed hynny’n dechnegau monitro neu’n ennyn diddordeb pobl mewn bywyd gwyllt arfordirol. Byddwch yn cael eich mentora a'ch cefnogi gan wirfoddolwyr profiadol. Bydd cyfle hefyd i ddod yn rhan o grŵp gwirfoddoli lleol sy'n diogelu bywyd gwyllt o amgylch yr aber.

Gwybodaeth berthnasol arall

Mae Caru Aber Dyfrdwy yn brosiect partneriaeth trawsffiniol, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Nod y prosiect yw cysylltu cymunedau arfordirol â’u treftadaeth naturiol i greu cymuned newydd o stiwardiaeth i warchod a diogelu arwyddocâd bywyd gwyllt Aber Afon Dyfrdwy yn effeithiol. Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yn: https://www.cheshirewildlifetrust.org.uk/ourdeeestuary

Beth i’w wneud os oes gennych chi ddiddordeb

Os yw hyn yn swnio fel chi ac os hoffech helpu eich bywyd gwyllt lleol, cyfarfod â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd, cysylltwch â ni drwy e-bostio Swyddog Cadwraeth a Gwirfoddoli Caru Aber Ddyfrdwy cdutton@cheshirewt.org.uk neu ffoniwch Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaer ar 07849398806.