Pin Badge Box Volunteer (Pembrokeshire) / Gwirfoddolwyr Blychau Bathodynnau Pin (Sir Benfro)
Please scroll down for English
Rydyn ni angen Gwirfoddolwyr Blychau Bathodynnau Pin yn Sir Benfro i’n helpu ni i godi arian hanfodol i achub byd natur. Mae’r swydd hon yn berffaith i bobl sy’n awyddus i wirfoddoli’n hyblyg am ychydig o oriau y mis, sy’n mwynhau cwrdd â phobl newydd ac a fyddai’n hoffi bod yn rhan o’u cymuned leol. Mae'r rôl hon yn cynnwys mynd at wahanol safleoedd yn eich ardal leol, fel siopau neu gaffis, a gofyn iddyn nhw gefnogi RSPB Cymru drwy gadw blwch bathodynnau pin ar eu safle. Rydyn ni hefyd yn chwilio am bobl sy’n gallu gosod eu blychau mewn lleoliadau amrywiol er mwyn i ni allu ymestyn ein cyrhaeddiad, gan annog pawb i wneud rhywbeth bach dros natur.
Bydd gan y rôl ddyletswyddau sylfaenol o ran gofalu am gyfraniadau i flychau a sicrhau eu bod yn dal i gael eu llenwi a’u bod mewn cyflwr da. Ond yn bennaf, mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i wneud gwahaniaeth ac i ysbrydoli eraill i helpu achub byd natur.
Os oes gennych sgiliau cyfathrebu a rhifedd da, sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol, awydd i ddatblygu sgiliau newydd ac angerdd dros y gwaith y mae’r RSPB yn ei wneud i roi cartref i fyd natur, byddwch yn siŵr o fwynhau’r rôl hon.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a phobl o gefndiroedd ethnig gwahanol.
I ddarllen disgrifiad llawn o’r rôl, cliciwch ar “mwy am y rôl hon” isod.
Sylwer: er y byddwch yn cael cyfleoedd rheolaidd i ddefnyddio eich Cymraeg fel gwirfoddolwr, mae ein system rheoli gwirfoddolwyr yn golygu mai dim ond yn Saesneg y byddwn yn gallu prosesu ceisiadau ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio cynyddu ymarferoldeb y system er mwyn gallu prosesu ceisiadau yn Gymraeg yn y dyfodol.
We need Pin Badge Box Volunteers in Pembrokeshire to help us raise vital funds for saving nature. This role is perfect for anyone looking to volunteer flexibly for a few hours per month and who enjoys meeting new people and would like to get involved in their local community.
This role involves approaching various sites in your local area, such as shops or cafes, and asking them to support RSPB Cymru by hosting a pin badge box on their premises. We are also looking for people to be diverse with where you place your boxes so we can widen our reach, encouraging all to take a small action for nature.
The role will have some basic duties around taking care of any earnings from boxes and making sure that they remain filled and in good condition. But, most of all this role offers the opportunity to make a difference and to help inspire others to help save nature.
If you have good communication and numeracy, basic computer literacy, a desire to develop new skills and a passion for the work the RSPB do to give nature a home, then this role will certainly be very rewarding for you!
We particularly welcome applications from Welsh speakers and from different ethnic backgrounds.
To read the complete role description please click on “more about this role” right here below.
Note: whilst you will have regular opportunities to use your Welsh as a volunteer, our volunteer management system means that we are currently only able to process applications in English. We are hoping to increase the functionality of the system to allow for applications to be processed in Welsh in the future.