Youth Group Assistant Leader (Conwy WEX) / Arweinydd Cynorthwyol Grwp Ieuenctid (WEX Conwy)

Opportunity image

Please scroll down for English

Mae Grwpiau Ieuenctid yr RSPB eich angen chi! Mae Grwpiau Ieuenctid bywiog a phwysig yr RSPB ledled y DU yn chwilio am arweinwyr cynorthwyol i helpu i ysbrydoli’r boblogaeth ifanc leol am fywyd gwyllt, antur ac archwilio byd natur. Mae’n llawn hwyl ac yn rhoi cyfle i chi gyfrannu at Grwpiau Ieuenctid yr RSPB. Mae gan yr RSPB dros 40 ledled y DU, felly dewch i helpu ac ymuno!

Mae’r rôl hon yn ymwneud yn bennaf â gweithio fel rhan o dîm arweinyddiaeth y grŵp dan arweiniad prif arweinydd y grŵp ac ochr yn ochr â thîm o gynorthwywyr i gynnal gweithgareddau sy’n annog pobl ifanc i archwilio a datblygu eu hangerdd dros fyd natur.

Fel arfer, mae grwpiau ieuenctid yr RSPB yn cwrdd bob mis gyda rhaglen o ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored. Gydag amser paratoi, bydd angen 4-6 awr y mis arnoch. Byddwch hefyd yn darparu cymorth ad hoc gyda thasgau gweinyddol fel sy’n ofynnol gan Brif Arweinydd y grŵp.

I ddarllen y rhestr gyflawn o dasgau a phrofiad defnyddiol, cliciwch ar mwy am y rôl hon isod.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi’r sgiliau dymunol ar hyn o bryd gan ein bod ni yma i’ch cefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau fel rhan o’ch hyfforddiant a’ch datblygiad parhaus yn y rôl hon.

Mae hon yn swydd sy’n rhoi llawer o foddhad ac sy’n llawn hwyl. Cewch gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd! Gallwch ddefnyddio eich sgiliau i ddatblygu’r grŵp ymhellach a helpu i sicrhau bod yr RSPB a’r grŵp yn cydweithio’n effeithiol i achub byd natur.

Fel arweinydd, gallech ddefnyddio’r cyfle i ymgymryd â her newydd i’r grŵp a dangos eich sgiliau arwain a/neu greadigol.

Beth am gysylltu i weld sut byddech chi’n ffitio yn y rôl?

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a phobl o gefndiroedd ethnig gwahanol.

...

The RSPB Youth Groups need you! Vibrant and important RSPB Youth Groups across the UK are looking for assistant leaders to help enthuse the local youth population about wildlife, adventure and exploration of nature. Its bags of fun and gives you the chance to contribute to RSPB Youth Groups. The RSPB has over 40 across the UK, so please come help and join in!

This role mainly involves working as part of the group leadership team lead by the main group leader and alongside a team of assistant to run activities that encourage young people to explore and develop a passion for nature.

Typically, RSPB youth groups meet monthly with a programme of indoor and outdoor events. With preparation time, you will need 4-6 hours a month. You will also provide ad hoc support with admin tasks as required by the group's Main Leader.

To read the complete list of tasks and helpful experience, please click on 'more about this role' below.

Don't worry if you don't have the desirable skills currently as we are here to support you to build your skills as part of your ongoing training and development in this role.

This is a really fun and rewarding role. You'll get to meet new people and make new friends! You can utilise your skills to further develop the group and help ensure the RSPB and the group work together effectively to save nature.

As assistant leader you could use the opportunity to take on a new challenge for the group and flex your leadership and/or creative muscles.

Why not get in touch and see how you would fit in the role?

We particularly welcome applications from Welsh speakers and from different ethnic backgrounds.