Species Protection (Little Tern Engagement Officer)

Opportunity image

Little Tern Engagement Officer (Species Protection)

Purpose of the role

Are you passionate about protecting wildlife near you?

We’re looking for enthusiastic people to help protect the Point of Ayr little tern breeding colony and engage visitors to the coast about them. You don’t need to know anything about little terns – we’ll help you learn.

Disturbance is the greatest threat to nesting little terns and we need volunteers to help protect the nests from human disturbance and predators such as birds of prey. Volunteers will support the RSPB and North Wales Little Tern Group to protect the small but recovering population of little terns at the Point of Ayr.

What you will be doing

This role is seasonal (May to August) and involves:

· Working in a small team alongside other volunteers and people from wildlife groups and organisations around the estuary.

· Engaging with the public, informing them of the importance and vulnerability of the little tern colony.

· Talking to visiting members of the public to prevent disturbance to the little tern breeding colony.

· Being outdoors in a variety of weathers.

· Helping with initial installation of electric fencing.

Skills, experience, and qualities needed.

You don’t need to know how to identify any birds for this role – we will help you learn. We are looking for people who love to chat to others and like being outdoors. No specific experience is necessary as all training will be provided, but we are looking for people who are:

· Able to communicate well with others – a real people person

· Passionate and enthusiastic about conservation and British wildlife.

· Happy to work outside in all weathers.

· Friendly and approachable and enjoy working as part of a team.

· Are willing to travel to the coast.

When and where?

· May to August

· Volunteering rote will cover 9am till 5pm, 7 days a week.

· Average commitment for each volunteer: between 1 day each week and 1/2 a day every fortnight – depending on your level of availability.

Support offered.

The Our Dee Estuary project is a cross-border, partnership between Cheshire Wildlife Trust, RSPB, Natural England and Natural Resources Wales amongst others. This volunteering role will be managed by RSPB, and volunteers will register with RSPB and work under their risk assessments, safety policies and procedures. RSPB will provide all the training, equipment and support you need.

What could you get out of it?

You will be mentored and supported in this role by professional conservationists and experienced volunteers. This is a great opportunity to get out in the fresh air, meet new people, learn about local wildlife, and gain new skills whether that’s monitoring techniques or engaging people in wildlife.

There are many ways in which we can support wildlife across Our Dee Estuary and throughout the year. Whether you are an experienced conservationist or a new volunteer, this can be the route to a fulfilling role within the community that protect and support the wildlife of the Estuary.

Other relevant information

Our Dee Estuary is a cross-border, partnership project, funded by the National Lottery Heritage Fund. The project aims to connect coastal communities with their natural heritage to create a new community of stewardship to effectively conserve and safeguard the wildlife significance of the Dee Estuary.

Swyddog Ymgysylltu Môr-wenoliaid Bach (Diogelu Rhywogaethau)

Pwrpas y rôl

Ydych chi'n angerddol am ddiogelu bywyd gwyllt yn eich ardal chi?

Rydyn ni’n chwilio am bobl frwdfrydig i helpu i ddiogelu poblogaeth fagu o fôr-wenoliaid bach yn y Parlwr Du ac i ennyn diddordeb yr ymwelwyr â’r arfordir ynddynt. Does dim angen i chi wybod unrhyw beth am fôr-wenoliaid bach - byddwn yn eich helpu i ddysgu.

Tarfu yw’r bygythiad mwyaf i fôr-wenoliaid bach sy’n nythu ac mae arnom ni angen gwirfoddolwyr i helpu i ddiogelu’r nythod rhag tarfu gan bobl ac ysglyfaethwyr fel adar ysglyfaethus. Bydd y gwirfoddolwyr yn cefnogi’r RSPB a Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru i ddiogelu’r boblogaeth fechan, ond sy’n adfer, o fôr-wenoliaid bach yn y Parlwr Du.

Beth fyddwch yn ei wneud

Mae'r rôl hon yn dymhorol (Mai i Awst) ac yn cynnwys y tasgau canlynol:

· Gweithio mewn tîm bychan ochr yn ochr â gwirfoddolwyr eraill a phobl o grwpiau a sefydliadau bywyd gwyllt o amgylch yr aber.

· Ymgysylltu â'r cyhoedd, gan roi gwybod iddynt am bwysigrwydd a pha mor agored i niwed yw’r boblogaeth o fôr-wenoliaid bach.

· Siarad ag aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld i atal tarfu ar y boblogaeth fagu o fôr-wenoliaid bach.

· Bod yn yr awyr agored mewn amrywiaeth o dywydd.

· Helpu gyda gosod ffensys trydan yn eu lle.

Sgiliau, profiad a rhinweddau gofynnol.

Does dim angen i chi wybod sut i adnabod unrhyw adar ar gyfer y rôl hon - byddwn yn eich helpu i ddysgu. Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd wrth eu bodd yn sgwrsio ag eraill ac yn hoffi bod yn yr awyr agored. Does dim angen profiad penodol oherwydd bydd yr holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu, ond rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â’r canlynol:

· Gallu cyfathrebu'n dda ag eraill – person pobl.

· Angerddol a brwdfrydig dros gadwraeth a bywyd gwyllt Prydain.

· Hapus i weithio y tu allan ym mhob tywydd.

· Cyfeillgar a hawdd siarad â hwy ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm.

· Bodlon teithio i'r arfordir.

Pryd a ble?

· Mai i Awst.

· Bydd y rôl wirfoddoli rhwng 9am a 5pm, 7 diwrnod yr wythnos.

· Ymrwymiad ar gyfartaledd i bob gwirfoddolwr: rhwng 1 diwrnod yr wythnos a ½ diwrnod bob pythefnos – yn dibynnu ar lefel eich argaeledd.

Y gefnogaeth a gynigir.

Mae prosiect Caru Aber Dyfrdwy yn bartneriaeth ar draws ffiniau rhwng Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer, yr RSPB, Natural England a Chyfoeth Naturiol Cymru ymhlith eraill. Bydd y rôl wirfoddoli yma’n cael ei rheoli gan yr RSPB, a bydd y gwirfoddolwyr yn cofrestru gyda’r RSPB ac yn gweithio o dan eu hasesiadau risg, eu polisïau a’u gweithdrefnau diogelwch. Bydd yr RSPB yn darparu'r holl hyfforddiant, yr offer a’r gefnogaeth sydd arnoch eu hangen

Sut gallech chi elwa?

Byddwch yn cael eich mentora a'ch cefnogi yn y rôl hon gan gadwraethwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr profiadol. Mae hwn yn gyfle gwych i fynd allan i’r awyr iach, cwrdd â phobl newydd, dysgu am fywyd gwyllt lleol, a meithrin sgiliau newydd, boed hynny’n dechnegau monitro neu’n ennyn diddordeb pobl mewn bywyd gwyllt.

Mae llawer o ffyrdd y gallwn ni gefnogi bywyd gwyllt ar draws prosiect Caru Aber Dyfrdwy a thrwy gydol y flwyddyn. Os ydych chi’n gadwraethwr profiadol neu’n wirfoddolwr newydd, gall hwn fod yn llwybr at rôl sy’n rhoi llawer o foddhad yn y gymuned ac sy’n diogelu ac yn cynnal bywyd gwyllt yr Aber.

Gwybodaeth berthnasol arall

Mae Caru Aber Dyfrdwy yn brosiect partneriaeth ar draws ffiniau sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Nod y prosiect yw cysylltu cymunedau arfordirol â’u treftadaeth naturiol i greu cymuned newydd o stiwardiaeth i warchod a diogelu arwyddocâd bywyd gwyllt Aber Afon Dyfrdwy yn effeithiol.