Biosecurity Team Member (South Wales) / Aelod o’r Tîm Bioddiogelwch (De Cymru)
Scroll down for English Language
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’n Tîm Bioddiogelwch lleol, gan gael effaith uniongyrchol ar natur ar un o ynysoedd pwysicaf y DU ar gyfer adar y môr. Mae Timau Ymateb Cyflym i Ymlediad y DU yn gyfrifol am ddiogelu ynysoedd pwysicaf y DU ar gyfer adar y môr drwy ymateb i unrhyw ysglyfaethwyr estron goresgynnol sy’n llwyddo i gyrraedd yr ynysoedd hyn, a chael gwared ohonynt cyn iddynt fwyta wyau a chywion adar y môr. Byddwch yn cael profiad gwerthfawr a hyfforddiant i roi mesurau ymateb i ymlediad ar waith os bydd rhywogaethau fel llygod mawr yn cael eu canfod ar yr ynysoedd. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a staff eraill, yn ogystal ag aelodau o gymunedau’r ynysoedd, i ffurfio timau ymateb rheng flaen ar fyr rybudd, a hynny er mwyn achub nythfeydd adar y môr sy’n bwysig yn fyd-eang.
Bydd arnoch angen amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ar gyfer y rôl hon, gan gynnwys:
• Byw yn agos i fan ymadael ynys, neu allu teithio ar fyr rybudd.
• Meddu ar natur gyfeillgar a gallu cyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
• Gallu gweithio yn yr awyr agored mewn amrywiaeth o amodau tywydd, a gallu ymdopi â lefel uchel o weithgarwch corfforol ar rai ynysoedd. (Ar rai ynysoedd, efallai y bydd angen i chi wersylla)
• Gallu gweithio mewn timau o 3-8 o bobl
• Dilyn cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch.
• Bod yn hyblyg ac yn barod i addasu i newid.
• Pan fydd ymlediad yn digwydd, helpu dros y cyfnod ymateb cychwynnol o 1 i 2 wythnos, ac yna gyda’r rhaglen 6 mis o oruchwyliaeth ddilynol.
Drwy fod yn rhan o'r tîm hanfodol hwn, byddwch yn helpu i achub rhai o’n hadar môr mwyaf eiconig, gan gynnwys Adar Drycin Manaw, Pedrynnod Drycin a Phalod, a hynny mewn rhai o’r lleoliadau mwyaf trawiadol yn y DU. Byddwch yn rhan o gronfa o wirfoddolwyr y byddwn yn cysylltu â nhw ar fyr rybudd i ymateb i unrhyw achos o ymlediad ar yr ynysoedd canlynol: Ynys Gwales, Ynys Sgogwm, Ynys Sgomer, Ynys Dewi ac Middleholm
Bydd y Tîm Ymateb Cyflym i Ymlediad, sydd wedi’i leoli yn Hwb Ymateb Cyflym i Ymlediad Hwlffordd, yn hyfforddi gyda’i gilydd drwy gydol y flwyddyn. Byddwch yn dysgu sut mae gwneud twneli abwyd, a sut mae eu gosod mewn gridiau, ynghyd â thrapiau camera, a thwneli inc, i rwystro ysglyfaethwyr sy’n famaliaid goresgynnol. Byddwch yn cael hyfforddiant ar sut i drin gwenwyn llygod, a chasglu rhywogaethau wedi’u targedu sydd wedi marw.
Nid ydym yn disgwyl i bawb fod ar gael drwy’r amser ond pan fydd amheuaeth o ymlediad, rydym yn chwilio am bobl i deithio i ynysoedd, ac weithiau i fyw gyda’r tîm ymateb cyflym i ymlediad a chymunedau ynysoedd drwy gydol eich cyfnod gwirfoddoli. Byddwch yn cwrdd ac yn gweithio gyda phobl angerddol eraill sy’n arbenigwyr ym maes bioddiogelwch ac sydd â gwybodaeth drylwyr am adar y môr.
...
This is an exciting opportunity to join our local Biosecurity Team, making a direct impact for nature on one of the UK’s most important seabird islands. The UK's Rapid Incursion Response Teams are responsible for protecting our most important seabird islands by reacting to, and removing, any invasive non-native mammalian predators that manage to reach these islands before they predate on seabird eggs and chicks. You will gain valuable experience and training in implementation of incursion response measures in the event of species such as rats being detected on the islands. You will be working alongside other volunteers, staff and island communities forming frontline response teams at short notice, to save globally important seabird colonies.
You will need a range of skills and experience for this role including:
• Be based near to island departure points or be able to travel at short notice.
• Have a friendly disposition and be able to communicate effectively with a range of people.
• Be able to work outdoors in a variety of weather conditions and terrain, and able to cope with a high level of physical activity on some islands. (On some islands, you may need to camp)
• Be able to work in teams of 3-8 people
• Follow health and safety instructions.
• Be flexible and adaptable to change.
• When an incursion happens, help over the initial 1- 2 week incursion response, and 6 month follow up surveillance programme.
By being part of this vital team, you will be helping to save some of our most iconic seabirds including Manx Shearwater, Storm Petrel, and Puffin in some of the most spectacular locations in the UK. You will be part of a pool of volunteers that we will contact at short notice to respond to any incursion on Ynys Gwales (Grassholm), Ynys Sgogwm (Skokholm), Ynys Sgomer (Skomer), Ynys Dewi (Ramsey Island) and Ynys Ganol (Middleholm).
The Rapid Incursion Responder Team, based at Haverfordwest Rapid Incursion Response Hub, will train together throughout the year. You will learn how to make bait tunnels, and how to set them out in grids, along with camera traps, and ink tunnels, to intercept invasive mammalian predators. You will be trained in how to handle rodenticide, and collect dead target species.
We are not expecting everyone to be available all the time but when an incursion is suspected, we are looking for people to travel to islands, and sometimes to live with the rapid incursion response team and island communities for the duration of your volunteering time. You will meet and work with other passionate people that are experts in the biosecurity field and have a deep knowledge of seabirds.