Volunteer Assemble Support (Hyfforddwr Technegol - Gogledd Cymru / Technical Trainer - North Wales)

Opportunity image

Please scroll down for English

Rydym ni’n chwilio am wirfoddolwyr i hwyluso sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb a chynorthwyo timau presennol yng ngogledd Cymru i ddefnyddio Assemble, sef ein system rheoli gwirfoddolwyr.

Byddwch yn aelod o’r Tîm Ymgysylltu bach ond prysur yng Nghymru, a byddwch yn cynnig cymorth i dimau eraill yng ngogledd Cymru, e.e. ein timau Gwarchodfeydd, a Thîmau Prosiectau penodol.

Dyma rai o’r tasgau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r rôl hon:

  • Ateb ymholiadau cyffredinol.
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu a pharatoi sesiynau hyfforddiant ar gyfer y timau presennol yng ngogledd Cymru sydd wedi gofyn am help ychwanegol er mwyn gallu gwneud defnydd llawn o’r system Assemble.
  • Hwyluso sesiynau hyfforddi yng ngogledd Cymru
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o greu a chynnal adnoddau dysgu.
  • Cynorthwyo gydag adborth a gwerthuso...
  • ...ac ati...mae digon o gyfle i ymgymryd â thasgau newydd wrth iddyn nhw ddatblygu os ydych chi’n dymuno gwneud hynny

Efallai y byddai hwn yn brofiad gwerthfawr i rywun sydd â diddordeb mewn gweithio yn y byd addysg neu mewn swydd yn y maes ymgysylltu. Byddwch yn gweithio gyda thechnoleg ddiweddaraf Microsoft ac, wrth i'r cynnyrch esblygu, byddwch yn cael y cyfle i barhau i ddysgu a diweddaru'r sgiliau hyn. Ar y llaw arall, os ydych chi’n brofiadol, byddem yn falch o gael eich cefnogaeth a’ch profiad!

Bydd Gwirfoddolwyr Cefnogi Assemble fel arfer yn treulio rhwng hanner diwrnod a diwrnod cyfan yr wythnos yn cefnogi’r tîm, a gall mwy nag un gwirfoddolwr rannu’r tasgau. Ar ben hynny, gallwch gyflawni rhan fwyaf o gyfrifoldebau’r rôl hon gartref. Byddwn yn darparu’r holl hyfforddiant angenrheidiol er mwyn i chi allu ymgymryd â holl gyfrifoldebau’r swydd, e.e. datblygu eich dealltwriaeth o Assemble, ond mae’n rhaid i chi ddangos eich bod chi’n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith:

  • Person sy’n dda gyda phobl yn gyffredinol.
  • Sgiliau trefnu rhagorol a gallu rhoi sylw craff i fanylion.
  • Cyfforddus yn defnyddio’r rhyngrwyd, MS Word, Outlook, Excel a MS Teams (tebyg i Zoom os nad ydych chi wedi defnyddio Teams o’r blaen).
  • Sgiliau cyfathrebu da.
  • Cyfforddus/hapus i wirfoddoli o bell, o’ch cartref eich hun.
  • Hyder i deithio o le i le yn annibynnol er mwyn rhoi sesiynau hyfforddi.
  • Dibynadwy ac ymroddedig.
  • Byddai bod yn siaradwr Cymraeg a bod â diddordeb mewn cadwraeth yn ddefnyddiol, ond ddim yn hanfodol.

Ar drothwy blwyddyn newydd, rydyn ni’n aml yn teimlo ein bod eisiau gwneud mwy o bethau er mwyn ein lles ac mae gwirfoddoli yn ffordd wych o wneud hyn. Mae’n ein helpu i gysylltu â phobl, bod yn egnïol, sylwi ar yr hyn sydd o’n cwmpas, dysgu sgiliau newydd ac, wrth gwrs, mae’n gwneud i ni deimlo ein bod yn gwneud cyfraniad. Mae 87% o wirfoddolwyr yr RSPB yn cytuno bod gwirfoddoli gyda’r RSPB yn gwella eu hiechyd a’u lles, a hynny drwy fod yn rhan o’r mudiad mwyaf yn y DU sy’n gweithredu er lles byd natur.

Os yw hyn yn apelio atoch chi neu’n swnio fel y byddai’n apelio at rywun rydych chi’n ei adnabod, cysylltwch â ni neu rhannwch yr hysbyseb!


We’re looking for volunteers who can facilitate in person training sessions and support existing teams in North Wales in using Assemble, our volunteer management system.

You will be part of the small but busy Engagement Team in Wales, and you will offer support to other teams, e.g. our Reserves and specific Project Teams across North Wales.

Some of the general tasks involved in this role are:

  • Answering general enquiries.
  • Assisting with the planning and organisation of training sessions for existing teams in North Wales which request additional support to make the best use of the Assemble system.
  • Facilitating in person training sessions across North Wales
  • Assisting with learning resource maintenance and creation.
  • Assisting with gathering feedback and evaluation…
  • …etc…there is plenty of scope to take on new tasks as they develop if you'd like to!

This opportunity may be a very valuable experience for someone interested in an education or engagement role. You will be working with the latest Microsoft technology and as the products continue to evolve, you'll have the opportunity to keep learning and updating these skills. On the other hand, if you are experienced then we would be thrilled to have your support and experience!

The Assemble Mentors will usually support the team for ½ -1 day a week and tasks can be shared by more than one volunteer. On top of that, most part of this role can be easily done from home. All training will be provided to undertake the role fully, e.g. developing your own understanding of Assemble, but you have to bring the right talents to the role:

  • Be a good all round 'people person'.
  • Excellent organisational skills and attention to detail.
  • Comfortable using the internet, MS Word, Outlook, Excel and MS Teams (similar to Zoom if you've not used Teams before).
  • Good communication skills.
  • Happy/comfortable volunteering remotely, from your own home.
  • Confidence to travel independently to deliver the training sessions.
  • Reliable & committed.
  • Welsh speaker and an interest in conservation would be useful, but not essential.

As we enter a new year, we often feel that we want to do more for our wellbeing and volunteering is a great way to do this. It helps us to connect with people, be active, take notice of what is around us, learn new skills and of course a sense of giving. In fact, 87% of RSPB volunteers agree that volunteering with the RSPB improves their health & wellbeing, all while being part of the UK’s biggest movement for nature.

If this sounds good to you or someone you know then get in touch or share it!

Photo: Sam Turley (rspb-images.com)