Off-Reserve Surveyor (Black Grouse / Grugiar Ddu)
Please scroll down for English
Mae Cymru mewn argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae llawer o’n rhywogaethau cyffredin nawr mewn perygl o ddiflannu’n llwyr. Mae angen i ni ddeall rhagor am faint a dosbarthiad poblogaeth y rhywogaethau hyn.
Rydyn ni’n chwilio am bobl i’n helpu i fonitro poblogaeth y Grugiar Ddu yng ngogledd Cymru.
Mae’r Grugiar Ddu yn aderyn carismatig, mae’r gwrywod yn enwog am eu hymddygiad paru yn y gwanwyn. Roedd y rhywogaeth yn arfer bod yn gyffredin yng nghanolbarth a gogledd Cymru ond mae ei niferoedd wedi disgyn yn arw.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
Byddwch chi’n rhan o dîm sy’n cynnal ‘Cyfrif Mannau Paru wedi’i Gydlynu’. Fel rheol bydd yr arolygon hyn yn cael eu cynnal ddechrau’r gwanwyn. Byddan nhw’n cael eu defnyddio i gyfri poblogaeth gwrywod y Grugiar Ddu sy’n paru mewn ardal. Mae’r wybodaeth hon yn eithriadol o bwysig i helpu i fonitro patrymau yn y boblogaeth a gwerthuso’r ymateb i’n gwaith cadwraeth.
Rydyn ni’n awgrymu o leiaf ddau ymweliad, ond yn aml tri. Y cyntaf mewn golau dydd i edrych ar y cynefin addas a’r mynediad, mae modd gwneud hyn rhwng mis Chwefror a mis Ebrill. Bydd yr ail ymweliad yn dechrau awr cyn y wawr i ddod o hyd i’r man paru yn eich parth monitro. Bydd y trydydd ymweliad ar ddiwrnod y Cyfrif Mannau Paru wedi’i Gydlynu. Bydd yr ymweliad hwn yn digwydd awr cyn y wawr i gyfrif nifer uchaf yr adar yn y man paru. Mae pob parth monitro yn cael ei gyfrif ar yr un diwrnod.
Gwybodaeth Bwysig am y ‘Cyfrif Mannau Paru wedi'i Gydlynu’:
Rhaid cynnal yr arolygon hyn yn gynnar yn y bore, rhaid i chi fod ar y safle o leiaf awr cyn y wawr. Maen nhw’n cael eu cynnal dros dir heriol, ar draws gorgors, coedwigaeth a grug dwfn, pan nad oes llawer o olau. Mae hi’n hanfodol eich bod yn gallu cerdded yn bell dros dir anwastad yn hyderus. Bydd angen i chi hefyd allu cyrraedd lleoliadau anghysbell, lle nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn aml.
Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr sy’n meddu ar y sgiliau a’r profiad canlynol:
- Dealltwriaeth o gynefin ac ymddygiad paru’r Grugiar Ddu, neu barodrwydd i ddysgu.
- Profiad o arolygu adar.
- Gallu cwblhau arolygon fel unigolyn neu mewn grŵp bach.
- Ffitrwydd corfforol da.
- Sgiliau trefnu da a’r gallu i gadw cofnodion dibynadwy o ddata.
- Sgiliau TG i gyflwyno data a chadw mewn cysylltiad.
- Gallu cyrraedd lleoliadau anghysbell pan nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael.
Byddwch chi’n cael hyfforddiant llawn ar sut i gynnal yr arolwg.
Teithio:
Bydd angen i chi allu cyrraedd mewn cerbyd personol. Mae’r safleoedd yn aml yn anghysbell a does dim modd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Y manteision i chi:
- Cyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at warchod un o rywogaethau mwyaf eiconig Cymru.
- Dysgu sgiliau newydd, o ran arolygu a chasglu data.
- Cyfle i ddatblygu’n bersonol.
- Cefnogaeth gan dîm brwdfrydig a chyfeillgar.
- Cyfle i chi fod yn rhan o gymuned o wirfoddolwyr brwdfrydig sydd â’r un nod.
- Cyfle i fod yn yr awyr agored, sydd o fudd i iechyd a llesiant yn ogystal ag arsylwi bywyd gwyllt yn agos.
- Profiad o weithio i elusen gadwraeth fawr.
Os yw hon yn swnio fel y rôl i chi, cliciwch y botwm ‘gwneud cais’.
Wales is in a climate and biodiversity crisis. Many of our once common species are now at risk of extinction. We need to understand more about these species' population size and distribution.
We are looking for people to help us monitor the black grouse population in north Wales.
The black grouse is a charismatic bird, the males best known for their ‘lekking’ behaviour in spring. The species was once common in mid and north Wales but has suffered drastic declines.
What you will be doing:
You will be part of a team carrying out ‘Coordinated Lek Counts’. These spring surveys usually take place in early spring. They are used to determine the population of lekking male black grouse in an area. This information is incredibly important to help monitor population trends and evaluate the response to the conservation work we do.
We suggest at least two but often three visits. The first in daylight to check suitable habitat and access, this can take place between February – April. The second visit starts one hour before dawn to locate the lek within your monitoring zone. The third visit is on the day of the Coordinated Lek Count. This visit takes place one hour before dawn to count the maximum number of birds in the lek. All monitoring zones are counted on the same day.
Important Information about the ‘Coordinated Lek Counts’:
These surveys must take place early in the morning, you must be at the site at least one hour before dawn. They cover challenging terrain, across the blanket bog, forestry, and deep heather, in low light conditions. Confidence in walking long distances on uneven terrain is essential. You will also need to access remote locations, where often no public transport is available.
We are looking for volunteers with the following skills and experience:
- An understanding of black grouse habitat and lekking behaviour, or willingness to learn.
- Experience of bird surveying.
- Ability to complete surveys as an individual or in a small group.
- Good physical fitness.
- Good organisational skills and ability to keep reliable records of data.
- IT skills for submitting data and keeping in touch.
- Ability to get to remote locations when no public transport is available.
Full training on how to conduct the survey will be provided.
Travel:
Transport with a personal vehicle is required. The sites are often remote and cannot be accessed by public transport.
What’s In It for You:
- An opportunity to make a direct contribution to conserving one of Wales’ most iconic species.
- The ability to learn new skills, both in surveying and data collection.
- An opportunity for personal development.
- Support from a passionate, friendly team.
- An opportunity to be part of a community of enthusiastic volunteers with a common aim.
- An opportunity to be outdoors, benefiting health and wellbeing as well as observing wildlife closely.
- Experience working for a large conservation charity.
If this sounds like the role for you then please click 'apply'.