Practical Reserve Work (Vegetation and habitat management group / Grŵp rheoli llystyfiant a chynefinoedd - RSPB Conwy)
Please scroll down for English
Hoffech chi helpu i ofalu am RSPB Conwy? Mae gwarchodfeydd natur yr RSPB yn lleoedd arbennig i bobl a bywyd gwyllt, ac rydyn ni’n dibynnu ar wirfoddolwyr i'w cynnal fel eu bod yn y cyflwr gorau posibl.
Mae ein tîm rheoli llystyfiant a chynefinoedd yn cyfarfod ar ddydd Llun (10:00-13:00) i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau ar y warchodfa, megis:
- Torri a chlirio llystyfiant ar ochr llwybrau
- Torri a rhacio cyrs i reoli gwelyau cyrs
- Clirio a rheoli mannau o brysgwydd ar gynefinoedd glaswelltir
- Cynnal a rheoli offer
- Creu a chynnal seilwaith i ymwelwyr, megis llwybrau a meinciau
- Dilyn cynlluniau gwaith blynyddol
- Dilyn protocolau Iechyd a Diogelwch
Does dim angen unrhyw sgiliau na phrofiad penodol, dim ond parodrwydd i gymryd rhan. Os ydych chi'n poeni am fywyd gwyllt ac yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd fel rhan o dîm, gallai hwn fod y cyfle perffaith i chi.
Er mwyn darllen disgrifiad llawn o’r rôl, cliciwch ar ‘mwy am y rôl yma’ isod, neu lawrlwythwch un o’r dogfennau PDF (mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael).
Would you like to help look after RSPB Conwy? RSPB nature reserves are special places for people and wildlife, and we rely on volunteers to maintain them in the best possible condition.
Our vegetation and habitat management work party meet on Mondays from 10:00-13:00 to undertake a range of tasks on the reserve, such as:
- Cutting and clearing path-side vegetation.
- Cutting and raking reeds to manage reed beds
- Clearing and managing areas of scrub on grassland habitats.
- Maintaining and managing tools and equipment.
- Creating and maintaining visitor infrastructure, such as paths and benches.
- Following annual work plans.
- Following Health and Safety protocols.
No specific skills or experience are necessary, just a willingness to get involved. If you care about wildlife and enjoy working outdoors in all weathers as part of a team, this could be the perfect opportunity for you.
To read the complete role description please click on “more about this role” right here below or check the downable PDFs (Welsh & English versions available).