Practical Reserve Work (Wildlife gardening and maintenance group / Grŵp garddio a chynnal a chadw bywyd gwyllt - RSPB Conwy)
Please scroll down for English
Hoffech chi helpu i ofalu am RSPB Conwy? Mae gwarchodfeydd natur yr RSPB yn lleoedd arbennig i bobl a bywyd gwyllt, ac rydyn ni’n dibynnu ar wirfoddolwyr i'w cynnal fel eu bod yn y cyflwr gorau posibl. Rydyn ni’n awyddus i sefydlu grŵp garddio a chynnal a chadw newydd i ofalu am ein planwyr, ein gardd bywyd gwyllt, ac ardal Y Maes, sy'n croesawu ymwelwyr ac yn gweithredu fel porth i'r warchodfa. Dyma’r math o weithgareddau y byddwch yn eu gwneud:
- Dyfrio, chwynnu a phlannu ein planwyr a'n potiau blodau o amgylch y ganolfan groeso
- Chwynnu a chynnal a chadw’r Maes
- Creu amgylchedd croesawgar i ymwelwyr
- Cynnal a rheoli offer
- Dilyn cynlluniau gwaith blynyddol
- Dilyn protocolau Iechyd a Diogelwch
Does dim angen unrhyw sgiliau na phrofiad penodol, dim ond parodrwydd i gymryd rhan. Os ydych chi'n poeni am fywyd gwyllt, yn ymddiddori mewn garddio, ac yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored fel rhan o dîm, gallai hwn fod y cyfle perffaith i chi.
Er mwyn darllen disgrifiad llawn o’r rôl, cliciwch ar ‘mwy am y rôl yma’ isod, neu lawrlwythwch un o’r dogfennau PDF (mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael).
Would you like to help look after RSPB Conwy? RSPB nature reserves are special places for people and wildlife, and we rely on volunteers to maintain them in the best possible condition.
We are looking to establish a new wildlife gardening and maintenance group to look after our planters, wildlife garden and Y Maes area, which welcome visitors and acts as a gateway onto the reserve. The kind of activities you will be carrying out include:
- Watering, weeding and planting our planters and flowerpots around the visitor centre
- Weeding and garden maintenance of the Maes and area reserve gateway
- Creating a welcoming environment for visitors
- Maintaining and managing tools and equipment
- Following annual work plans
- Following Health and Safety protocols
No specific skills or experience are necessary, just a willingness to get involved. If you care about wildlife, are interested in gardening, and enjoy working outdoors as part of a team, this could be the perfect opportunity for you.
To read the complete role description please click on “more about this role” right here below or check the downable PDFs (Welsh & English versions available).